top of page

Rhwydwaith Trafod Grwpiau Ffermwyr Prydain

Croeso i wefan Rhwydwaith Trafod Grwpiau Ffermwyr Prydain. Yma cewch rywfaint o wybodaeth gefndir am y Rhwydwaith a sut i gysylltu â ni.

Fe welwch chi fod y wefan hon yn eitha sylfaenol. Mae’n well gennym ni dreulio’n hamser a’n hadnoddau yn gweithio gyda ffermwyr ar lawr gwlad.  Ond gobeithio y bydd y wybodaeth sydd yma’n rhoi blas ichi o’r hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni.
 

Beth yw’r Rhwydwaith?

Rydym yn chwilio am grwpiau trafod ffermio i gymryd rhan mewn dadl genedlaethol ar y pynciau mawr sy’n effeithio ar ffermio heddiw.

Beth bynnag yw pwrpas eich grŵp chi: prynu a gwerthu cynnyrch, rhannu technoleg, neu dreialu bridiau a syniadau newydd – fe hoffem glywed gennych.

Mae ffermio ym Mhrydain ar fin wynebu un o’r cyfnodau ansicrwydd mwyaf arwyddocaol ers oesoedd. Ein nod ni yw hyrwyddo trafodaeth agored o fewn a rhwng grwpiau ffermio lleol ar lawr gwlad i alluogi ffermwyr i ddadlau ac ystyried y pynciau mawr fel amodau’r farchnad ôl-Frexit, grantiau ffermio i’r dyfodol, dynameg cadwyni cyflenwi bwyd, addysgu’r cyhoedd, technolegau newydd a llawer mwy.

Ar ôl dechrau yn Lloegr yn 2018, erbyn hyn mae dros 170 o grwpiau ffermwyr ar draws y wlad wedi ymuno â ni. Y nod yn ystod 2024 a thu hwnt fydd ehangu’r Rhwydwaith yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon tra’n dal i gynyddu’r aelodaeth yn Lloegr.

Dewch i drafod

Mae lle i grwpiau trafod sy’n bodoli eisoes a rhai sydd newydd eu ffurfio. Credwn mai’r grwpiau bach, lleol hyn yw’r lle gorau i gychwyn trafodaeth genedlaethol barhaus o fewn y diwydiant ffermio.

Home_nations_flag.png
bottom of page