top of page

Amdanom

Anchor 1

Sut mae’n gweithio

Gan ddilyn arweiniad y ffermwyr sy’n cymryd rhan, byddwn ni’n darparu rhaglen dreigl o faterion i’w hystyried gan grwpiau ar draws gwledydd Prydain, gan ofyn cwestiynau penodol am y materion sy’n effeithio fwyaf ar ddyfodol ffermio.
 
Wedyn byddwn yn casglu’r sylwadau a’r farn a fynegwyd, ac yn eu cyfuno â lleisiau ar draws y rhwydwaith cyfan. Bydd y themâu craidd sy’n codi o hynny yn cael eu cofnodi a’u rhannu â’r holl gyfranogwyr drwy gylchlythyron a bwletinau rheolaidd.

 

Nid yn unig y bydd eich grŵp yn cael ei lwyfan trafod ei hun, ond bydd cyfle hefyd i glywed beth sydd gan grwpiau mewn rhannau eraill o’r wlad i’w ddweud.  Bydd manylion pawb sy’n cymryd rhan yn parhau’n gwbl gyfrinachol a bydd pob ymateb i arolygon a holiaduron yn ddienw.

 

Bydd y prif bwyntiau a godir yn cael eu rhannu gyda’r llywodraeth, busnesau, a chyrff sydd â buddiant mewn rheoli tir, cynhyrchu bwyd, neu’r amgylchedd.

Pwy all gymryd rhan?

Mae’r Rhwydwaith yn agored i grwpiau trafod ffermwyr, rhai newydd neu rai sydd wedi’u sefydlu ers tro byd. Credwn mai’r grwpiau bach, lleol hyn yw’r lle gorau i gychwyn trafodaeth genedlaethol barhaus o fewn y diwydiant ffermio.

Anchor 2

Beth fydd yn cael ei drafod?

Byddwn yn gofyn i grwpiau siarad am amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar ffermio heddiw, er enghraifft:​​

  • Beth yw swyddogaeth tir, a sut y gall roi elw ariannol da wedi inni adael y Polisi Amaethyddol Cyffredin?

  • Sut y gallwn ni gydbwyso cynhyrchu bwyd â’r galw cynyddol am ofalu am yr amgylchedd a lles anifeiliaid?

  • Sut y gall ffermwyr ymgysylltu â’r cyhoedd i ailsefydlu’r cysylltiad rhwng cwsmeriaid a bwyd?

  • Pa sgiliau, technoleg, datblygiadau a chyngor sydd eu hangen ar ffermwyr iddyn nhw eu hunain ac i’w busnesau?

Anchor 3

Pam cymryd rhan?

Mae’r Rhwydwaith yn fenter anwleidyddol, wedi’i hwyluso’n annibynnol a’i arwain gan y busnesau i sicrhau bod ffermwyr cyffredin wrth galon y ddadl. Dyma lais sydd yn aml heb gael gwrandawiad.

Wrth gymryd rhan yn y Rhwydwaith bydd grwpiau lleol fel eich grŵp chi yn cael cyfle i drafod yn agored a systematig rai o’r pynciau mwyaf llosg ynghylch dyfodol ffermio.

Ein gwaith ni yw rhannu’r syniadau hynny gyda grwpiau ffermio eraill, a gyda pobl sy’n gallu dylanwadu ar newidiadau.

Bydd y Rhwydwaith yn rhoi cyfle i unigolion a chyrff oddi mewn ac oddi allan i’r sector ffermio ddatblygu polisïau hirdymor ar gyfer rheoli amaeth a’r amgylchedd a fydd yn gweithio i fusnesau ffermio ac i gymdeithas yn fwy cyffredinol.

Anchor 4

Sut mae’r Rhwydwaith yn gweithio

Mae’r Rhwydwaith yn cael ei reoli gan y Land, Environment, Economics and Policy Institute (LEEP) yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerwysg.  Mae arian cychwynnol a chefnogaeth i’r gweithgaredd hwn wedi’i roi gan noddwyr sy’n cynnwys y Northumbrian Water, Dŵr Hafren Trent, South West Water, South East Water a WWF-UK. Mae gan bob un o’r rhain ddiddordeb mewn cydweithio gyda’r sector ffermio.

Dros amser, ein gobaith yw y bydd rhagor o gyrff o bob rhan o Brydain yn cynnig eu cefnogaeth.

Mae LEEP yn cymryd rôl cydgysylltu annibynnol, ac yn cyflawni’r tasgau isod:

 

  • Adnabod a chefnogi arweinwyr ac aelodau grwpiau a’u cynnwys yn y ddadl.

  • Cynnal arolygon ymhlith arweinwyr ac aelodau grwpiau, er mwyn casglu a rhannu gwybodaeth am eu barn.

  • Sefydlu gwasanaeth hwyluso’r Rhwydwaith, i alluogi grwpiau ffermio i gysylltu â’i gilydd i drefnu ymweliadau grŵp a chyfnewid gwybodaeth.

Amserlen 2024

Anchor 5

Gan adeiladu ar y dechneg drafod lwyddiannus a ddatblygwyd y llynedd, bwriadwn gynnal pedwar cyfnod trafod yn ystod 2024 yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau rhanbarthol ac ymweliadau grŵp gydag aelodau’r Rhwydwaith.

 

Y cynllun yw dal ati yn barhaol, am gyhyd ag y bydd y ffermwyr sy’n cymryd rhan yn gweld gwerth yn y broses. Mae pawb yn rhydd i ymuno neu ymadael ar unrhyw bwynt.

bottom of page