Rhwydwaith Trafod Grwpiau Ffermwyr Prydain
Croeso i wefan Rhwydwaith Trafod Grwpiau Ffermwyr Prydain. Yma cewch rywfaint o wybodaeth gefndir am y Rhwydwaith a sut i gysylltu â ni.
Fe welwch chi fod y wefan hon yn eitha sylfaenol. Mae’n well gennym ni dreulio’n hamser a’n hadnoddau yn gweithio gyda ffermwyr ar lawr gwlad. Ond gobeithio y bydd y wybodaeth sydd yma’n rhoi blas ichi o’r hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni.
Beth yw’r Rhwydwaith?
Rydym yn chwilio am grwpiau trafod ffermio i gymryd rhan mewn dadl genedlaethol ar y pynciau mawr sy’n effeithio ar ffermio heddiw.
Beth bynnag yw pwrpas eich grŵp chi: prynu a gwerthu cynnyrch, rhannu technoleg, neu dreialu bridiau a syniadau newydd – fe hoffem glywed gennych.
Mae ffermio ym Mhrydain ar fin wynebu un o’r cyfnodau ansicrwydd mwyaf arwyddocaol ers oesoedd. Ein nod ni yw hyrwyddo trafodaeth agored o fewn a rhwng grwpiau ffermio lleol ar lawr gwlad i alluogi ffermwyr i ddadlau ac ystyried y pynciau mawr fel amodau’r farchnad ôl-Frexit, grantiau ffermio i’r dyfodol, dynameg cadwyni cyflenwi bwyd, addysgu’r cyhoedd, technolegau newydd a llawer mwy.
Ar ôl dechrau yn Lloegr yn 2018, erbyn hyn mae dros 170 o grwpiau ffermwyr ar draws y wlad wedi ymuno â ni. Y nod yn ystod 2024 a thu hwnt fydd ehangu’r Rhwydwaith yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon tra’n dal i gynyddu’r aelodaeth yn Lloegr.